Mynyddoedd Blackstairs

Mae Mynyddoedd Blackstairs yn codi’n drawiadol o diroedd isel de-ddwyrain yr Iwerddon. O gopaon yr ucheldiroedd hyn cewch fwynhau golygfeydd mwyaf ysblennydd i bob cyfeiriad. Tua’r gorllewin fe welwch eangderau canolbarth Iwerddon yn estyn o’ch blaen, a thua’r dwyrain cewch edrych draw at Wexford a Môr Iwerddon. Mae dylanwad oesoedd iâ y gorffennol yn amlwg yn y mynyddoedd hyn, yn enwedig yn y talpiau creigiog sy’n brigo i’r wyneb fel dyrnau ar hyd y copaon. Mae cynefinoedd gwerthfawr yn cynnal amrywiaeth hynod o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae’r ardal yn llawn olion archaeolegol o ganlyniad i hanes hir o anheddu. Mae cerddoriaeth ac adrodd straeon yn rhan o draddodiad cyfoethog a byw o fewn y cymunedau gwahanol o gylch Mynyddoedd y Blackstairs.

Killanne

Sitting on rich, fertile land on the eastern slopes of the Blackstairs Mountains, the village...

River Slaney

The River Slaney is a hugely important river in County Wexford, although it starts its...

Black Rock Mountain

Black Rock Mountain is in the northwest corner of County Wexford at the northern end...

Blackstairs Mountain

White Mountain