Ynghylch

Twristiaeth Adfywiol yn yr Ucheldiroedd Arfordirol

Datblygwyd y prosiect hwn drwy bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Dulyn, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a chymunedau lleol. Mae’n cysylltu pedair cymuned o fewn ardaloedd tir uchel sy’n gorwedd nepell o arfordir Môr Iwerddon: Mynyddoedd Cambria, Mynydd Preseli, Mynyddoedd Wicklow a Mynyddoedd Blackstairs. Mae ‘na hen, hen gysylltiadau rhwng yr ardaloedd hyn sy’n ymestyn yn ôl i’r cyfnod cynhanesol. Heddiw, maen nhw’n parhau i fod yn ardaloedd gwledig yn bennaf. Mae gan bob un ohonynt draddodiadau ffermio cryf ac maen nhw’n gartref i gymunedau bywiog sydd â hanes a threftadaeth gyfoethog i’w rhannu gyda chi. Rydym yn eich gwahodd i fod yn fwy na thwrist arferol. Rydym yn eich gwahodd i fod yn ‘dwrist adfywiol’. Wrth i chi grwydro a darganfod yr ardaloedd hyn, chwiliwch am gyfleoedd i gwrdd â’r cymunedau lleol, cymerwch ran mewn gwaith i gofnodi a monitro tirweddau a bywyd gwyllt, a chefnogwch weithgareddau a busnesau lleol!

Ariannwyd prosiect yr Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth (CUPHAT) gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru. Gweithiodd partneriaid y prosiect gydag amryw o gymunedau, ynghyd â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol o Gymru ac Iwerddon, er mwyn adnabod elfennau o dreftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardaloedd hyn y gellid eu harddangos a’u rhannu gydag ymwelwyr. Rydym yn ddiolchgar dros ben i’r ariannwyr, i’r rhanddeiliaid, ac yn arbennig i gymunedau lleol Mynyddoedd Cambria, Mynydd Preseli, Mynyddoedd Wicklow a Mynyddoedd Blackstairs am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i weithio gyda ni. Gyda’u cymorth nhw rydym yn cyflwyno ‘Ucheldiroedd Arfordirol: Adfywio | Crwydro.’

Mae’r wefan hon yn dangos i chi nifer o safleoedd diddorol ynghyd â llu o bethau i’w gwneud yn Ucheldiroedd Iwerddon a Chymru. Rydym wedi dewis pump safle ym mhob ardal sy’n arddangos y dreftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog sydd gan yr ardaloedd hyn i’w cynnig, ac wedi ceisio pwysleisio’r cysylltiadau rhwng de-ddwyrain Iwerddon a gorllewin Cymru. Cyflwynir y wybodaeth dan bedair thema: Daeareg & Thirffurfiau, Bioamrywiaeth, Archaeoleg a Bywydau’r Gymuned. Ar hyn o bryd, wrth i ni ysgrifennu’r cyflwyniad hwn, mae’n bosib i chi ymweld â’r mwyafrif o safleoedd a restrir yma yn rhad ac am ddim, a gallwch gael mynediad rhwydd atynt. Mae ambell safle yn llai hygyrch, neu dan berchnogaeth breifat. Rydym wedi nodi hyn, lle bo’n berthnasol, ac wedi cynnwys deunydd digidol er mwyn i chi allu gwerthfawrogi’r safle heb ymweld â’r lle eich hunan. Wrth gwrs, gall materion fel hyn newid dros amser.Rydym yn eich gwahodd felly i fod yn ymwelydd cyfrifol bob tro y byddwch yn ymweld ag unrhyw safle, gan sicrhau eich diogelwch eich hun drwy gynllunio’ch taith yn ofalus a chadw at y Cod Cefn Gwlad.

Mae’r prosiect hwn wedi ceisio cyflwyno i’r Ucheldiroedd Arfordirol math o dwristiaeth adfywiol sy’n seiliedig ar dreftadaeth. Rydym yn eich hannog i wneud eich gorau glas yn ystod eich ymweliad i helpu a chefnogi cymunedau a busnesau lleol.

Er enghraifft:

  • Os gwelwch yn dda ac os yn bosib – arhoswch yn lleol, bwytwch yn lleol a phrynwch yn lleol yn y cymunedau hyn.
  • Mae ein tudalennau ‘Ardaloedd’ a ‘Cymerwch Ran’ yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu chi gymryd rhan mewn gweithgareddau Gwyddor y Dinesydd (‘Citizen Science’) tra’ch bod chi’n ymweld. Bydd y gwefannau neu’r ‘apiau’ hawdd hyn yn eich galluogi chi i’n helpu ni i fonitro’r amgylchedd a’r dirwedd leol. Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi ddilyn pob un ohonyn nhw ond byddai’n wych pe gallech ddewis un yn ystod eich arhosiad!
  • Ar ein tudalen ‘Beth Sydd Ymlaen’ fe welwch chi bod y tîm CUPHAT wedi gweithio ochr yn ochr â busnesau lleol, grwpiau cymunedol a mudiadau eraill er mwyn tynnu sylw at amryw o brofiadau lleol, bob-dydd sy’n dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol unigryw y cymunedau ucheldirol hyn. Beth am neilltuo ychydig o amser i fwynhau un o’r profiadau cofiadwy hyn yn ystod eich arhosiad?