Teithlenni
Fe welwch isod gyfres o deithiau a fydd yn eich tywys chi drwy’r bedair ardal a rhwng y gwahanol safleoedd. Cynigir dau fath o daith, un math yn seiliedig ar amser a math arall yn seiliedig ar thema.
Mae’r teithiau sy’n seiliedig ar amser yn cynnig opsiynau ar gyfer ymweliadau un-diwrnod, tri-diwrnod a/neu saith-diwrnod. Mae pob un o’r opsiynau hyn ar gael ar gyfer pob un o’r 4 ardal.
Mae’r teithiau sy’n seiliedig ar thema yn eich tywys ar draws y bedair ardal, gan ddilyn un o’r bedair thema – Daeareg & Thirffurfiau, Bioamrywiaeth, Archaeoleg a Bywydau’r Gymuned.
Os byddwch yn penderfynu ymweld â’r ardaloedd hyn, cofiwch y gall y signal ffôn a chysylltedd data fod yn wan mewn mannau. Byddwch yn ymwelydd cyfrifol os gwelwch yn dda, a gofalwch am eich diogelwch eich hunan drwy gynllunio’ch teithiau a chadw at y Cod Cefn Gwlad bob amser. Gall y tywydd droi yn sydyn yn yr ardaloedd hyn. Gwisgwch ddillad a ‘sgidiau addas ar gyfer yr amodau sydd o’ch cwmpas bob amser, a defnyddiwch offer priodol (e.e. mapiau, cwmpawd) yn enwedig wrth fynd i grwydro safleoedd diarffordd.
Rydym wedi gwneud ein gorau, gyda didwylledd a phob ewyllys da, i gynnig y teithiau hyn er mwyn eich helpu i grwydro a mwynhau’r ardaloedd hyn. Mae’r wybodaeth yn gywir ar yr adeg y cawsant eu hysgrifennu, ond gall unrhyw wybodaeth newid – unrhyw bryd. Ni all yr Ucheldiroedd Arfordirol na CUPHAT dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau a fydd yn deillio o ddilyn y teithiau hyn neu am unrhyw wallau neu hepgoriadau ynddynt. Nid yw’r Ucheldiroedd Arfordirol a CUPHAT yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am unrhyw golled neu anaf i bersonau nac eiddo o ganlyniad i ddefnyddio’r teithiau hyn.