Dechreuwch ar daith a fydd yn cyfrif. Dewch i grwydro Ucheldiroedd Arfordirol Iwerddon a Chymru. Dewch i edmygu tirweddau syfrdanol, byd natur arbennig, archaeoleg a hanes lleol hynod, a chymunedau bywiog. Wedi’i ddatblygu gyda chymunedau lleol ym Mynyddoedd Blackstairs a Mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon, ac ym Mynyddoedd Cambria a Mynydd Preseli yng Nghymru, mae profiad yr Ucheldiroedd Arfordirol yn cynnig rhywbeth gwahanol i dwristiaid.
Mae’r bedair ardal hon yn rhannu nifer o hen, hen gysylltiadau sy’n estyn nôl yn bell i’r cyfnod cynhanesol. O’r prosesau daearegol a grëodd y tirweddau gwreiddiol, i’r hinsawdd a’r tywydd sy’n parhau i’w siapio, mae’r ardaloedd hyn yn llawn tirffurfiau a nodweddion sy’n amrywiol ar y naill law ond sydd hefyd yn debyg i’w gilydd. Mae casgliad hynod o blanhigion ac anifeiliaid yn byw yn yr ardaloedd hyn, a cheir yma hanes hir o rywogaethau yn mudo o le i le – boed yn naturiol neu drwy ddylanwad dyn. Oherwydd yr hen gysylltiadau a ddatblygodd wrth i bobl groesi nôl a ‘mlaen dros Fôr Iwerddon mae’r olion archaeolegol yn lled debyg rhwng y gwahanol ardaloedd, ond eto maen nhw’n arddangos rhywfaint o wahaniaethau rhanbarthol hollol unigryw. Mae ‘na debygrwydd hefyd rhwng ein ieithoedd cenedlaethol, a’n chwedlau. Natur wledig, ar y cyfan, sydd i’r bedair ardal hon heddiw ac mae’r traddodiad ffermio yn gryf ym mhob un ohonyn nhw. Maen nhw’n cynnal cymunedau bywiog sy’n gwerthfawrogi hanes lleol, eu treftadaeth a’u traddodiadau. Mae’r trefi a’r pentrefi yn lleoedd prysur a llawn bywyd gyda chymunedau amrywiol sy’n newid ac yn esblygu’n barhaus.
Er mwyn ceisio rhoi darlun o’r dreftadaeth naturiol a ddiwylliannol gyfoethog hon, mae’r cynnwys yma yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol : Daeareg & Thirffurfiau; Bioamrywiaeth; Archaeoleg; a Bywydau’r Gymuned.
Daeareg & Thirffurfiau Crëwyd y tirweddau mawreddog o’n cwmpas gan brosesau naturiol dros filoedd lawer o flynyddoedd – prosesau sydd wedi cael eu haltro’n ddiweddar gan weithgaredd dyn.Dilynwch y thema hon er mwyn dysgu mwy am y ffyrdd y cafodd dyffrynnoedd, afonydd, rhaeadrau a llynnoedd gwych yr ardaloedd hyn eu ffurfio.
Bioamrywiaeth: Ceir amrywiaeth dda o gynefinoedd ar hyd a lled y tirweddau hyn. Maen nhw’n cynnal pob math o blanhigion ac anifeiliaid: gwelir rhai o’r rhain ym mhob un o’r 4 ardal ond mae ambell un yn unigryw. Dilynwch y thema hon er mwyn dysgu mwy am fywyd gwyllt rhyfeddol yr ardaloedd hyn, yn cynnwys planhigion sy’n bwyta trychfilod, adar anghofus, a’r addasiadau clyfar sy’n galluogi rhywogaethau i fyw yma.
Archheoleg: O fryngaerau ac abatai i olion diwydiant mwyngloddio, mae’n bosib darllen hanes cenedlaethau’r gorffennol yn y dirwedd o’n cwmpas. Mae’r Ucheldiroedd Arfordirol yn llawn tystiolaeth a adawyd gan bobl a fu’n byw a gweithio yma dros y canrifoedd. Dilynwch y thema hon er mwyn dysgu ble a sut yr oedden nhw’n byw, y gwrthrychau a’r offer a ddefnyddiwd ganddynt, a’r heriau y bu rhaid iddyn nhw wynebu.
Bywydau’r Gymuned: Mae’r cymunedau’r Ucheldiroedd Arfordirol, sydd wedi eu hamgylchynu gan dirweddau bendigedig ac wedi eu trwytho mewn hanes a thraddodiad, yn teimlo’n agos at y lleoedd sy’n gartref iddyn nhw. Dilynwch y thema hon i gael dysgu mwy am fywydau ddoe a heddiw o fewn y cymunedau bywiog hyn, ac i wrando ar straeon a lleisiau bobl leol.