Ceunant dwfn, cul Afon Mynach ym Mhontarfynach yw un o’r enghreifftiau gorau yng Nghymru. Mae’n nodweddiadol fod ceunentydd, rhaeadrau, a nodweddion cysylltiedig eraill fel ceudyllau, yn ffurfio’n araf o ganlyniad i effeithiau dŵr a gwaddod. Mae arafwch y modd y mae’r rhaeadrau’n newid yn awgrymu eu bod yn hen iawn, o leiaf cannoedd o filoedd o flynyddoedd oed, neu, yn bosibl iawn, miliynau o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu bod y rhaeadrau wedi goroesi trwy sawl un o’r nifer fawr o oesau iâ sydd wedi digwydd yng Nghymru, a’u bod yn llawer hynach nag unrhyw adeileddau dynol mawr ar y Ddaear, gan gynnwys y pyramidiau Eifftaidd cynharaf sy’n hysbys, sy’n ddim mwy na 5,000 o flynyddoedd oed.
Mae Afon Mynach yn llifo i mewn i Afon Rheidol, sy’n fwy, ac yn ymuno â’r Rheidol yn lle mae’r afon yn troi’n sydyn tua’r gorllewin, o’i lwybr deheuol blaenorol. Cafwyd y newid cyfeiriad hwn o ganlyniad i broses o’r enw afonladrad. Dros amser, gall afon dorri i mewn yn raddol i’r tir o’i hamgylch, sy’n gostwng gwely’r afon ac yn ymestyn sianelau i fyny’r afon. Yn yr achos hwn, roedd Afon Rheidol wedi torri yn ôl i gyfeiriad y dwyrain tuag at afon uwch o’r enw’r Teifi, a oedd yn wreiddiol yn llifo tua’r de. Unwaith y cyrhaeddodd afon Teifi, roedd y Rheidol wedi agor llwybr rhwyddach i ddŵr lifo i’r gorllewin, i lawr trwy ei sianel ei hun, gan ganiatáu i Afon Rheidol ‘ladrata’ ac ailgyfeirio llif y Teifi. Roedd y cwymp serth at i lawr rhwng y Teifi a’r Rheidiol yn cynyddu pŵer yr afon, a oedd yn gwneud i’r afon ddechrau cerfio’r ceunant dwfn, cul a welwn heddiw.